A yw gweithgaredd creadigol wedi bod yn bwysig i chi yn ystod y cyfnod ‘lockdown’?
Beth mae eich amser creadigol yn ei olygu i chi?
Sut mae bod yn greadigol yn gwneud ichi deimlo?

Mae’n bleser gan Celfyddydau Gwirfoddol Cymru a Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi prosiect newydd ar y cyd: ‘Fy Nghyfnod Creadigol – barddoniaeth wedi’i ysbrydoli gan y celfyddydau gwirfoddol’.

[English]

Nod y prosiect yw tynnu sylw at bwysigrwydd cymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol rheolaidd, yn enwedig yn ystod yr amser hwn o bandemig.

Rydym yn gwahodd pobl yng Nghymru i ddefnyddio barddoniaeth i fynegi eu meddyliau am fod yn greadigol. Gallai hyn gynnwys braslunio yn yr ardd, canu mewn côr, gwau gyda'ch ffrindiau, meistroli cord newydd ar y gitâr, neu ysgrifennu stori fer.

Mae’r fenter newydd hon, sy’n seiliedig ar brosiect wedi’i ddatblygu gan Celfyddydau Gwirfoddol yr Alban, ar y cyd â Llyfrgell Barddoniaeth yr Alban, yn gyfle i’r unigolion fwrw golwg ar a mynegi’r amryw fuddion ynghlwm â chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol. Bydd hefyd yn gyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan i ddathlu gwaith grwpiau celfyddydau gwirfoddol a’u cysylltiad gyda mannau a chymunedau ledled Cymru.  

Ein bwriad gwreiddiol oedd cynnal y prosiect wyneb yn wyneb ond oherwydd yr amgylchiadau, rydym yn gwahodd pobl i archwilio trwy farddoniaeth beth mae gweithgaredd creadigol yn ei olygu iddyn nhw yn ystod yr amser cythryblus hwn. Bydd y cerddi yn cael eu casglu a'u cyhoeddi mewn llyfryn dwyieithog.

Sut i gymryd rhan

  • Os hoffech chi gyfrannu cerdd am eich gweithgaredd creadigol, e-bostiwch [email protected] gyda ‘My Creative Time’ yn y llinell bwnc. 

Ac mae croeso i chi gysylltu â ni ar [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Ariannwr

Rydym yn hynod ddiolchgar i Sefydliad Teulu Ashley a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru am eu cefnogaeth gyda’r prosiect hwn.